
Nod y
briff hwn yw hysbysu'r Aelodau cyn iddynt drafod dwy ddeiseb yn y
cyfarfod hwn:
§ P-06-1533 Adolygu a diweddaru Darpariaethau 2-10 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.
§ P-06-1555 Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at addysg
Rhif y ddeiseb: P-06-1533
Teitl y ddeiseb: Adolygu a diweddaru Darpariaethau 2-10 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.
Geiriad y ddeiseb: Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu a diweddaru darpariaethau 2-10 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Sef, dyletswydd awdurdodau lleol i asesu anghenion teithio dysgwyr a threfniadau trafnidiaeth, gan gynnwys terfynau teithio. Teithio ôl-16 ac addysg feithrin. Cydraddoldeb mewn trefniadau teithio a hyrwyddo'r Gymraeg.
Yn 2021, ymrwymodd Gweinidogion Cymru i adolygu'r Mesur, gan dynnu sylw at y problemau; fodd bynnag, mae'n parhau i fod heb ei newid.
Mae'r cais hwn yn dilyn pryderon parhaus gan aelodau o'r cyhoedd a chyrff annibynnol, gan gynnwys Comisiynydd Plant Cymru, ynghylch lles plant, megis diogelwch, effaith ar lesiant meddyliol, addysg, ac iechyd corfforol plant.
Yn 2021, nododd Gweinidogion Cymru broblemau o ran y Mesur presennol, yr oedd rhai ohonynt yn ymestyn y tu hwnt i gwmpas y ddeddfwriaeth bresennol, gan ddweud bod dull gwneud dim yn amhriodol. Daeth i'r casgliad bod gwaith dros dro yn cyfiawnhau adolygiad cynhwysfawr o'r Mesur, gan atal mwy o "anghydraddoldeb, darpariaeth anghyson a chodau a chanllawiau pellach sydd wedi dyddio". Fodd bynnag, dywedodd yr Aelodau nad oedd amser o fewn y weinyddiaeth i ddechrau proses ffurfiol i newid y Mesur cyn i'r cyfnod cyn yr etholiad ddechrau, felly mae'n parhau i fod heb ei newid.
Rhif y ddeiseb: P-06-1555
Teitl y ddeiseb:Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at addysg
Geiriad y
ddeiseb: Dylai pob plentyn
sy’n cael addysg allu cyrraedd ysgol neu goleg yn gwbl
ddi-drafferth. Nid yw ein strydoedd yn ddiogel i bobl ifanc
dan 19 oed gerdded ar eu pennau eu hunain mwyach.
Heb gludiant uniongyrchol ar gyfer addysg i’r rhai y mae
RHAID iddynt hyd yn oed fynychu tan eu diwrnod olaf ym mlwyddyn 11.
Mae’r myfyrwyr hyn yn brwydro drwy salwch isorweddol, salwch
cudd, neu hyd yn oed salwch heb ddiagnosis. Y myfyrwyr sy’n
byw mewn tlodi ac yn ei chael yn anodd teithio ar fws cyhoeddus hyd
yn oed.
Y blynyddoedd cyn TGAU neu Safon Uwch
yw’r cyfnod hollbwysig mewn addysg. NI ddylai myfyrwyr fod yn
brwydro i gael addysg. Dylid gwneud hyn yn hawdd. Aeth myfyriwr
blwyddyn 8 ati i deithio ar droed o’r cartref i’r ysgol
un ffordd. Cymerodd gyfanswm o 1 awr a 10 munud. Nid oes ganddo
salwch isorweddol ac mae’n cymryd rhan mewn chwaraeon ar
ôl ysgol. Roedd yn cario 6kg yn ei fag cefn yn ogystal
â’i gôt. Ar ôl y daith hon, cwynodd am
draed dolurus, roedd ei ysgwyddau yn brifo ac roedd yn
teimlo’n flinedig iawn. Roedd hyn cyn diwrnod 6 awr ac
mewn tywydd oer a sych.
Nid oes lle i gadw dillad sbâr na hyd yn oed ystafell sych i
sychu dillad. Mae absenoldeb yn mynd i gynyddu.
Bydd mwy o geir ar ein ffyrdd ac felly bydd yr arllyriadau’n
cynyddu. Bydd ystadegau ar gyfer plant sy’n cael eu lladd
mewn damwain ddifrifol yn codi.
A fyddech cystal ag adolygu’r ddeddfwriaeth hon er mwyn i’r plant allu cael mynediad at addysg yn haws neu hyd yn oed cyn i blentyn gael ei anafu’n ddifrifol.
Mae angen clywed llais plentyn. Nhw yw ein blaenoriaeth ni, allwch chi ddweud yr un peth?
Mae'r ddwy ddeiseb hyn yn galw am yr un peth yn y bôn – adolygiad a newidiadau i'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y ddarpariaeth cludiant ysgolion a cholegau gan awdurdodau lleol. Mae un yn canolbwyntio ar y ddeddfwriaeth ei hun – y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 – ac yn defnyddio'r term 'teithio gan ddysgwyr'. Mae'r llall yn canolbwyntio ar y canllawiau statudol a gyhoeddwyd o dan y Mesur ac yn defnyddio'r term 'cludiant rhwng y cartref a'r ysgol'. Mae'r ddau derm yn gyfnewidiol yn gyffredinol, er mai 'teithio gan ddysgwyr' yw'r term cyfreithiol.
Mae deddfwriaeth sy'n ymwneud â chludiant rhwng y cartref a'r ysgol/teithio gan ddysgwyr wedi'i nodi yn y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y canllawiau gweithredol ar gyfer teithio gan ddysgwyr yn 2014.
Mae'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol ddarparu cludiant am ddim i ddisgyblion o oedran ysgol orfodol os ydynt:
§ yn byw ymhellach na'r 'pellter cerdded' statudol o'r ysgol (dwy filltir ar gyfer ysgolion cynradd a thair milltir ar gyfer ysgolion uwchradd); ac
§ yn mynychu eu 'hysgol addas agosaf'.
Mae’r canllawiau gweithredol yn nodi bod angen i awdurdodau lleol ystyried addasrwydd yr ysgol wrth benderfynu a yw’r lleoliad yn briodol i’r dysgwr. Mater i’r awdurdod lleol yw penderfynu pa ysgol yw’r un ‘agosaf’ i’r dysgwr, yn unol â’i bolisi teithio gan ddysgwyr a’i bolisi addysg ei hun.
Mae un o'r deisebau yn nodi bod angen adolygu a diweddaru adrannau 2 i 10 o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr. Mae'r adrannau hyn yn nodi ystod o ddyletswyddau ac yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol.
§ Mae adran 2 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu anghenion teithio dysgwyr mewn addysg neu cynradd, uwchradd neu bellach neu hyfforddiant.
§ Mae adran 3 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau trafnidiaeth a darparu trafnidiaeth am ddim i ddysgwyr cymwys o oedran ysgol orfodol yn y sefyllfaoedd a ganlyn:
· maent yn byw y tu hwnt i'r pellter cerdded statudol o'u hysgol addas agosaf (dwy filltir neu fwy ar gyfer ysgolion cynradd a thair milltir neu fwy ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd (11–16 oed)); neu
· nad oes llwybrau cerdded addas.
§ Mae adran 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau teithio eraill, er enghraifft lle mae gan ddysgwyr anghenion penodol sy'n deillio o anabledd neu anhawster dysgu.
§ Mae adran 5 yn egluro terfynau'r dyletswyddau o dan adrannau 3 a 4. Er enghraifft, nid oes gofyn i awdurdodau wneud trefniadau os oes addysg addas ar gael yn agosach at adref.
§ Mae adran 6 yn rhoi pwerau disgresiynol i awdurdodau lleol ddarparu trefniadau teithio hyd yn oed pan nad yw hyn yn ofynnol gan y gyfraith. Gall awdurdodau lleol ddefnyddio eu pwerau disgresiwn i ddarparu cludiant i ddysgwyr nad ydynt o oedran ysgol orfodol neu ddysgwyr nad ydynt yn mynychu eu hysgol addas agosaf os yw’n ysgol cyfrwng Cymraeg neu'n ysgol ffydd.
§ Mae adran 7 yn caniatáu i awdurdodau lleol wneud trefniadau teithio ar gyfer dysgwyr 16 oed a throsodd mewn addysg bellach neu hyfforddiant, ond nid yw hyn yn ddyletswydd statudol.
§ Mae adran 8 yn caniatáu i awdurdodau lleol wneud trefniadau teithio i addysg feithrin yn ôl eu disgresiwn.
§ Mae adran 9 yn nodi na ddylai trefniadau teithio ffafrio rhai mathau o addysg neu hyfforddiant ac na ddylid gwahaniaethu rhwng mathau o addysg neu hyfforddiant.
§ Mae adran 10 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hyrwyddo mynediad at addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys ystyried trefniadau teithio sy'n cefnogi'r nod hwn.
Dechreuodd Llywodraeth Cymru adolygiad o drefniadau teithio gan ddysgwyr yn 2019, a hynny i ystyried materion yn ymwneud â chludiant i ddysgwyr ôl-16 i ddechrau. Bu tarfu ar gynnydd yr adolygiad yn sgil pandemig COVID-19, ac yn 2020, penderfynodd Llywodraeth Cymru y dylid ehangu cwmpas yr adolygiad i gynnwys y grŵp oedran 4–16 mlwydd oed, ac i ystyried y trothwyon milltiredd o ran cymhwystra ar gyfer hawlio cludiant am ddim.
Adeg cyhoeddi'r Papur Gwyn Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn: Cynllunio Bysiau fel Gwasanaeth Cyhoeddus i Gymru (Mawrth 2022), dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd ar y pryd, Lee Waters AS, y byddai Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â rhaglen ehangach o waith a fyddai’n ystyried adolygiad llwyr o’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr.
Ar yr un pryd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd gyhoeddi’r adolygiad y gwnaeth ddatganiad amdano’n wreiddiol yn 2019. Ymhlith pethau eraill, canfu'r adolygiad fod angen diweddaru'r canllawiau gweithredol i sicrhau mwy o gysondeb. Canfu'r adolygiad fod materion ehangach y tu hwnt i'r rhai y mae’r ddeddfwriaeth bresennol yn eu cwmpasu, gan gynnwys cludiant ar gyfer dysgwyr hŷn ag anghenion dysgu ychwanegol ac ar gyfer y rheini mewn colegau addysg bellach. Cwblhawyd yr adolygiad yn fuan cyn etholiad diwethaf y Senedd yn 2021 ac fe’i cyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022. Nododd, er bod problemau gyda'r Mesur, nad oedd digon o amser yn y Bumed Senedd i ddechrau proses ffurfiol i'w newid.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod cludiant rhwng y cartref a'r ysgol yn cyfrif am chwarter o holl wariant uniongyrchol awdurdodau lleol ar addysg (h.y. heb gynnwys cyllidebau ysgolion dirprwyedig). Mae hyn yn cyfrif am £207 miliwn o £770 miliwn yn 2025-26.
Cafodd gwaith dadansoddi a gwerthuso mewnol ynghylch teithio gan ddysgwyr ei gynnal gan swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystod 2023. Dywedodd, o ystyried y diwygiadau arfaethedig ar gyfer strwythur y diwydiant bysiau a'r heriau sylweddol ynghylch pwysau cyllidebol, na ddylid mynd ati ar hyn o bryd i ddiwygio'r ddeddfwriaeth teithio gan ddysgwyr.
Un o argymhellion yr adolygiad oedd diweddaru canllawiau gweithredol 2014. Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ganllawiau diwygiedig rhwng 11 Mehefin a 28 Tachwedd 2025. Er nad yw'r gyfraith sy'n sail i deithio gan ddysgwyr wedi newid, mae'r canllawiau yn adlewyrchu newidiadau i ddeddfwriaeth arall ers i'r canllawiau cyfredol gael eu cyhoeddi yn 2014. Mae’r ddogfen ymgynghori yn nodi mai nod diweddaru’r canllawiau yw sicrhau eu bod:
§ yn cyd-fynd â, ac yn ymhelaethu ar y datblygiadau deddfwriaethol sydd wedi digwydd ers i'r canllawiau gael eu cyhoeddi'n wreiddiol;
§ yn darparu eglurder ar ddarpariaeth trafnidiaeth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol;
§ yn cryfhau canllawiau ar Adran 10 (hyrwyddo mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg) ac Adran 11 (hyrwyddo teithio cynaliadwy) o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru); ac
§ yn adlewyrchu rhai o'r arferion da a nodwyd ledled Cymru.
Ym mis Mai 2025, cynhaliodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru uwchgynhadledd a ddaeth â chyrff cynrychioliadol ynghyd i drafod yr heriau a'r datrysiadau ymarferol ar gyfer gwella teithio gan ddysgwyr. Cyhoeddwyd adroddiad o’r uwchgynhadledd a oedd yn nodi nifer o ffrydiau gwaith parhaus.
Codwyd materion yn ymwneud â theithio gan ddysgwyr gan lawer, gan gynnwys rhieni, plant a phobl ifanc, a chyrff sy'n eu cefnogi. Mae Comisiynwyr Plant olynol wedi codi pryderon ers blynyddoedd lawer. Mae'r rhain yn cynnwys hyd pellteroedd cerdded ac addasrwydd llwybrau cerdded. Er bod rhaid i awdurdodau lleol asesu diogelwch llwybrau cerdded i ysgolion, nid oes dyletswydd arnynt i asesu diogelwch y llwybrau y mae rhaid i ddysgwyr eu defnyddio er mwyn dal bws i’r ysgol. Mae'r Comisiynydd Plant presennol, Rocio Cifuentes, hefyd wedi mynegi pryder ynghylch diffyg cludiant i ysgolion neu golegau ar gyfer dysgwyr ôl-16 a materion ynghylch cludiant ar gyfer y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol.
Yn ei hymateb i adroddiad argymhellion Llywodraeth Cymru ynghylch Teithio gan Ddysgwyr, dywedodd y Comisiynydd Plant fod yr adolygiad o’r Mesur:
…yn gwbl annigonol, gan fethu â nodi unrhyw newid ystyrlon i’r canllawiau neu’r ddeddfwriaeth gyfredol, a newidiadau ystyrlon i brofiadau plant.
Mae teithio gan ddysgwyr yn ymddangos eto yn adroddiad blynyddol y Comisiynydd Plant ar gyfer 2024/25.
Cafwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 25 Mawrth 2025 ynghylch teithio gan ddysgwyr. Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd erthygl cyn y ddadl honno.
Mae mater teithio gan ddysgwyr wedi codi mewn nifer o ymchwiliadau a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:
Absenoldebau disgyblion(Tachwedd 2022) – clywodd y Pwyllgor am gost teithio rhwng yr ysgol a’r cartref a'r effaith gysylltiedig ar bresenoldeb yn yr ysgol. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau mai anghenion unigol a phenodol plant a phobl ifanc sy’n sail i benderfyniadau ar deithio gan ddysgwyr. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb ei bod yn edrych ar sut y gallai fwrw ymlaen â rhaglen waith ehangach i wella darpariaeth gweithredwyr, ac alinio trafnidiaeth yn well â nodau polisi ehangach eraill, megis darpariaeth cyfrwng Cymraeg, cefnogi disgyblion ag ADY ac ystyried darpariaeth i sefydliadau addysg bellach.
A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? (Gorffennaf 2024) - Clywodd y Pwyllgor fod dysgwyr ag ADY, a phlant a phobl ifanc anabl a niwroamrywiol, yn wynebu heriau mwy o ran teithio gan ddysgwyr, gyda hyn yn cyfyngu ar eu gallu i ymgysylltu'n llawn ym mhopeth y gall ysgolion ei gynnig. Clywodd y Pwyllgor hefyd fod gwahanol awdurdodau lleol yn cymhwyso’r canllawiau presennol yn anghyson. Nododd y Pwyllgor ei siom nad oedd yr adolygiad teithio gan ddysgwyr (2024) yn fwy beiddgar o ran edrych ar newid mwy systematig i'r ddeddfwriaeth sy'n sail i deithio gan ddysgwyr. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu adolygu a chyhoeddi canllawiau statudol newydd ar deithio gan ddysgwyr. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn yr argymhelliad hwn, gan gadarnhau bod adolygiad o'r canllawiau ar y gweill.
Llwybrau i addysg a hyfforddiant ôl-16(2025) – clywodd y Pwyllgor gan nifer o randdeiliaid fod cost ac argaeledd cludiant ar gyfer dysgwyr i opsiynau ôl-16 yn effeithio ar ddewis dysgwyr. Cyhoeddwyd ei adroddiad ar 12 Tachwedd.
Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi trafod dwy ddeiseb yn y Chweched Senedd mewn perthynas â chludiant o'r cartref i'r ysgol, yn ogystal â'r ddwy y cyfeirir atynt yn y briff hwn.
P-06-1343 Darparwch drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd (2023). Galwodd hyn am drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob dysgwr mewn ysgolion uwchradd i ysgol uwchradd ei ddalgylch. Nododd y Pwyllgor fod gwaith yn mynd rhagddo, ac y byddai Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn mynd drwy’r Senedd. Gan fod gwaith sylweddol wedi’i wneud ar y mater, cytunodd yr Aelodau nad oedd llawer mwy y gallent ei wneud, gan gau’r ddeiseb ar 4 Tachwedd 2024.
P-06-1264 Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun (2022). Nododd y Pwyllgor fod y materion yn y ddeiseb yn ymwneud â chyllid, ac mai cyfrifoldeb ysgolion a llywodraeth leol oedd cydweithio ar lwybrau diogel i'r ysgol. Nododd yr Aelodau fod gweithgarwch sylweddol wedi digwydd mewn perthynas â theithio gan ddysgwyr ers trafod y ddeiseb gyntaf ym mis Ebrill 2022. Nododd y Pwyllgor fod gwaith ar drafnidiaeth bysiau i rai dan 18 oed yn mynd rhagddo, ac y byddai Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn mynd drwy’r Senedd, felly cytunodd i gau’r ddeiseb ar 2 Tachwedd 2024.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.